Mae cofebion a cherrig beddi llechi wedi bod yn gyfrwng naturiol at ddibenion cofio am gannoedd o flynyddoedd.
Yma yn Snowdona Natural Slate Products, gallwn ni gynhyrchu nifer o gerrig beddi a gwahanol gofebion. Rydym ni’n gwerthu cerrig beddi yn blaen neu gallwn ysgythru'r garreg fedd i chi. Gallwn hefyd gynhyrchu fasys dal blodau a phlaciau coffa llechi i’w rhoi ar feddi, gan gynnwys ysgythriad bach o'ch dewis. Gall ein crefftwyr hefyd greu cofebion llechi wedi'u teilwra gan ddefnyddio dyluniad a gaiff ei lunio gyda’ch manyleb chi a'n harbenigedd ni.
Os hoffech ragor o fanylion am gofebion neu unrhyw gynnyrch llechi arall, mae croeso i chi gysylltu â ni a byddwn ni’n gwneud y gweddill.
Snowdonia Natural Slate Products,
Site Office & Workshop,
Benar View,
Blaenau Ffestiniog,
Gwynedd, LL41 3UT