Y Tŷ

Rydym ni’n defnyddio llechi Cymreig naturiol i wneud enwau/rhifau tai ac mae pob un wedi'i wneud yn ôl eich manyleb chi. Gallwn ni wneud unrhyw siâp neu faint ac mae gennym ni amrywiaeth o wahanol ffontiau i ddewis ohonynt. Mae'r ysgythriad ar gael mewn gwyn, arian, aur neu’r lliw naturiol. Gellir cael lluniau neu logos hefyd.

Cysylltwch â ni i gael rhagor o fanylion.

slate-house-names-2.jpg

Ar gael gyda gorffeniad wedi’i rwbio’n gain neu orffeniad wedi’i hollti hyd at 2500mm x 1500mm mewn maint gyda thrwch sy’n dechrau o 15mm.

Mae byrddau crwn hefyd ar gael.

Mae'r priodweddau dal dŵr, y gorffeniad llyfn cain wedi'i rwbio a'r gwythienwaith glas a argraffwyd 400 i 500 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn golygu y gall llechi wneud arwyneb gwaith, cownter neu fwrdd delfrydol. P'un a yw'n cael ei ddefnyddio yn y tŷ neu'r ardd, gall arwynebau llechi greu amgylchedd sy’n gweithredu’n wych ond sydd hefyd yn hardd.
Gellir ei weithgynhyrchu i'ch union fanyleb, ac mae rhai dewisiadau wedi’u rhestru isod:

  • Proffiliau ymyl amrywiol
  • Toriadau
  • Tyllau tapiau
  • Rhigolau (grooves) draenio

Os hoffech ragor o wybodaeth am arwynebau gwaith, mae croeso i chi cysylltwch â ni.

slate-worktops-2.jpg

Mae gennym ni ddewis eang o gynhyrchion ar gyfer y lle tân, a phob un yn cael ei gynhyrchu’n arbennig i bob archeb. Gellir gorffen y darnau mewn sawl ffordd e.e. wedi'u rhwbio'n gain, wedi’u hollti, ymylon wedi’u polisio, ymylon siamffrog neu ymylon â phroffil. Rydym ni hefyd yn cynnig gwasanaeth dylunio â chymorth cyfrifiadur a gwasanaeth sgwrio â thywod (sandblast) y gellir ei ddefnyddio i bersonoli darnau gyda dyluniad o'ch dewis.
Dyma restr o'r cynhyrchion rydym ni'n eu cynnig:

  • Aelwydydd
  • Slabiau cefnogol
  • Mentyll
  • Silffoedd
  • Teils cil pentan (inglenook)
  • Rhannau amgylchynu (surrounds)
  • Corbelau

Os hoffech ragor o wybodaeth am gratiau ac aelwydydd, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Ar gael mewn gorffeniadau llifiedig, wedi’i rwbio’n gain ac wedi’i hollti.

Meintiau hyd at 2500mm x 1500mm gyda thrwch sy’n dechrau o 15mm.

Wedi’u gwneud i’ch manyleb chi.

Pa fath o ymyl hoffech chi?

  • Fflat
  • Gyda phroffil (mae gennym ni lawer o wahanol broffiliau ymylon i ddewis ohonynt)
  • Gloyw (polished)
  • Siamffrog

Rydym ni hefyd yn gwneud rhigolau tywydd a thoriadau unigryw.

Mae llechen yn wydn, yn para a does dim gwaith cynnal a chadw ynghlwm â hi. Mae hyn, law yn llaw a’i hansawdd, yn golygu ei bod yn ddelfrydol ar gyfer adeiladau newydd a chartrefi traddodiadol.

Os hoffech ragor o wybodaeth am gynhyrchion llechi ar gyfer ffenestri a grisiau, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Mae llechen yn ddeunydd amrywiol i weithio â hi. Gyda help, gellir ei hollti ar hyd y grawn a’i phileru ar onglau cywir gyda chŷn. Gellir gweithgynhyrchu copin ‘cock and hen’ i’ch manyleb chi i’w ddefnyddio ar waliau.

Mae deunyddiau ar gyfer gerddi cerrig a phalmentydd clytiog hefyd ar gael.

Os hoffech ragor o wybodaeth am dirlunio â llechen a waliau llechi, mae croeso i chi gysylltu â ni.

slate-walling.jpg

Yn Snowdonia Natural Slate Products, mae gennym ni amrywiaeth o wahanol loriau, teils wal a phalmentydd llechi. Gallwn gyflenwi teils ar gyfer lloriau a waliau.

Daw’r teils llechi mewn amrywiaeth o arddulliau.

Gorffeniad wedi’i rwbio’n gain - Mae arwyneb y deilsen wedi’i pholisio i roi gorffeniad llyfn a mân.

Gorffeniad wedi’i hollti - Ni chaiff y deilsen ei pholisio ac mae’n cadw cymeriad hardd y llechen.

Gellir ychwanegu eich dyluniad chi at y teils drwy ddylunio gyda chymorth cyfrifiadur a thechnegau sgwrio â thywod.

Meintiau i’ch manyleb chi o 50mm sgwâr, gyda thrwch teils waliau yn dechrau o 3mm a thrwch teils lloriau yn dechrau o 10mm.

Mae deunyddiau palmant ar gael mewn gwahanol feintiau ar hap neu wedi’u torri i’ch manyleb chi.

Os hoffech ragor o wybodaeth am loriau a theils llechi, cofiwch gysylltu â ni.

 

slate-flooring.jpg

 

Snowdonia Natural Slate Products,
Site Office & Workshop,
Benar View, Blaenau Ffestiniog,
Gwynedd, LL41 3UT