Mae SNOWDONIA NATURAL SLATE PRODUCTS yn un o brif gwmnïau’r Deyrnas Unedig sy’n arbenigo mewn Llechi Naturiol Cymreig. Mae’r gweithdy wedi’i leoli yng nghrombil copaon Parc Cenedlaethol Eryri, ardal sy’n enwog fel un o ganolfannau cynhyrchu llechi mwyaf y byd. Rydym ni’n cyflogi crefftwyr medrus a phrofiadol sy’n defnyddio dulliau traddodiadol o weithio gyda llechi. Mae peiriannau o’r radd flaenaf a thechnoleg gyfrifiadurol yn cynnig yr ansawdd a’r cywirdeb sydd eu hangen ar gyfer prosiectau cymhleth.
Dechreuodd JOHN TUDOR JONES, sylfaenydd a pherchennog SNSP, ar ei yrfa fel crefftwr llechi 15 mlwydd oed dan brentisiaeth mewn chwarel lechi leol a chafodd ei ddyrchafu yn rheolwr y chwarel cyn iddo droi’n 30 oed. Yna, aeth ymlaen i ddechrau ei gwmni ei hun, SNSP, ym 1998. Mae bellach yn ei chwedegau ac wedi pasio ei wybodaeth ymlaen i’w fab, David Wynne Jones, a ddechreuodd weithio gyda’i dad yn llawn amser ym 1999 a daeth yn rheolwr yn 2008. Ef yw’r bedwaredd genhedlaeth yn ei deulu i weithio yn y diwydiant llechi. Mae John, David a phawb yn SNSP yn parhau i gynnig cyngor a gwasanaeth rhagorol i’w cwsmeriaid.
Snowdonia Natural Slate Products,
Site Office & Workshop,
Benar View,
Blaenau Ffestiniog,
Gwynedd, LL41 3UT