Croeso i Snowdonia Natural Slate Products

Gwneuthurwyr Cynhyrchion Llechi Cymreig o Safon

Rydym ni’n ymfalchïo mewn cynhyrchu cynhyrchion llechi Cymreig o safon gan harneisio llechi Cymreig o chwareli lleol a defnyddio crefftwyr lleol. Mae gennym ni amrywiaeth helaeth o gynhyrchion llechi gan gynnwys crefftau, cerrig beddi a chofebion, lloriau a theils, waliau, arwyddion llechi wedi’u hysgythru (engraved), gratiau tân, aelwydydd a thirlunio gerddi. Gellir personoli y rhan fwyaf o'n cynhyrchion llechi Cymreig fel y dymunwch chi. Rydym ni’n dylunio gyda chymorth cyfrifiadur ac yn ysgythru drwy sgwrio â thywod (sandblast) er mwyn personoli eich cynnyrch.

Mae ein crefftwyr yn hynod fedrus o ran creu cynhyrchion llechi Cymreig, o’r crefftau lleiaf i brosiectau tirlunio mawr. Cymerwch gip ar ein cynnyrch llechi Cymreig am ysbrydoliaeth. Os hoffech gynnyrch llechi na allwch ei weld ar ein gwefan, cysylltwch â ni a byddwn ni’n gwneud ein gorau glas i fodloni eich cais.

P’un a yw’n brosiect bach neu fawr, ni yw’r bobl i siarad â nhw.

Cynhyrchion Hyrwyddo

Slate Garden Products

Cynhyrchion Gardd

Slate Craft Products

Cynhyrchion Crefft

Slate Memorial Products

Cofebion Llechi

Snowdonia Natural Slate Products,
Site Office & Workshop,
Benar View, Blaenau Ffestiniog,
Gwynedd, LL41 3UT