Mae cynhyrchion llechi ar gyfer yr ardd a thirlunio yn un o’n harbenigeddau. P’un a oes gennych chi ardd fach neu fawr, gallwn ni helpu.
Dyma ddetholiad o rai o’n cynhyrchion gardd mwyaf poblogaidd. Os nad ydych chi’n gweld rhywbeth sy’n mynd â’ch bryd, gallwch gysylltu â ni a byddwn ni’n gwneud y gweddill.
Cysylltwch â ni neu dewch i weld beth sydd gennym ni mewn stoc.
Os na allwch chi ddod o hyd i unrhyw beth sy’n mynd â’ch bryd, gallwn ni greu nodweddion dŵr yn ôl eich manyleb chi.
Mae ein rheseli gwin llechi yn hynod boblogaidd ac ar gael mewn amrywiaeth o wahanol siapiau a meintiau gan ddal rhwng 1 hyd at 50 o boteli. Rydym ni hefyd yn gallu creu rheseli gwin unigryw i ffitio mewn gofod yn eich cegin neu seler gwin. Neu gallwch eu hysgythru i greu’r anrheg priodas/pen-blwydd priodas perffaith.
Ewch ati i addurno eich gardd gyda’n planwyr sydd wedi’u gwneud o lechi Cymreig. Ni fyddant yn treulio yn y tywydd nac yn erydu, a byddant yn edrych yn brydferth drwy gydol y flwyddyn. Mae gennym ni amrywiaeth o blanwyr mewn stoc neu gallwn eu creu i’ch manyleb chi.
Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth..
Mae ein cerrig camu yn gwneud y llwybr perffaith ar gyfer eich gardd. Rydym ni’n eu gwneud yn y meintiau isod:
Mae’r cwmpasau ar gael yn Gymraeg neu’n Saesneg, yn y meintiau isod:
Mae ein Pyllau Adar yn amrywio mewn meintiau a siapiau, Uchder yn fras 60cm. Maent yn ddelfrydol i’r rheiny sydd eisiau denu bywyd gwyllt i’w gerddi.
Mae ein byrddau a’n meinciau yn berffaith ar gyfer yr ardd. Ni fyddant yn treulio yn y tywydd, yn erydu nac yn chwythu i ffwrdd yn y gwynt. Gellir eu gwerthu fel set neu'n unigol. Mae'r meinciau bychain yn 1m x 400mm a’r byrddau bychain yn 1m x 550mm gyda gorffeniad wedi’i hollti. Mae'r meinciau mawr yn 1.6m x 400mm a’r byrddau mawr yn 1.6m x 850mm gyda gorffeniad cain wedi'i rwbio. Gallwn hefyd ddisodli'r pren ar hen fainc â llechen, gan wneud iddo edrych fel newydd. Cymerwch gip ar lun mainc wedi'i hadfer.
Gellir gwneud yr holl Fyrddau/Meinciau yn ôl eich manyleb hefyd, felly cysylltwch â ni i gael rhagor o fanylion.
Os hoffech ragor o wybodaeth am unrhyw un o’r cynhyrchion rydych chi wedi’u gweld yma neu os hoffech siarad â ni am brosiect tirlunio, mae croeso i chi gysylltwch â ni.
Snowdonia Natural Slate Products,
Site Office & Workshop,
Benar View,
Blaenau Ffestiniog,
Gwynedd, LL41 3UT